Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad Rhag Ardrethi

Annomestig)

1. Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae RhS 29 yn rhagnodi bod rhaid gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol os yw Bil Seneddol y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at bwrpas sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol neu sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

2. Cyflwynwyd y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) (“y Bil”) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 4 Gorffennaf 2017. Gellir cael copi o’r Bil yn:
https://services.parliament.uk/bills/2017-19/telecommunicationsinfrastructurerelieffromnondomesticrates.html

Yr Amcan(ion) Polisi

3. Amcan polisi datganedig Llywodraeth y DU yw cefnogi buddsoddiad mewn seilwaith band eang ffeibr newydd a chyfathrebu 5G yn y dyfodol drwy gynnig rhyddhad ardrethi annomestig newydd o 100% ar gyfer seilwaith ffeibr llawn newydd. Caiff y rhyddhad hwn ei ddarparu am gyfnod o bum mlynedd o 1 Ebrill 2017. Mae modd ôl-ddyddio'r rhyddhad i 1 Ebrill 2017 ar gyfer seilwaith cymwys.

Crynodeb o'r Bil

4. Caiff y Bil ei noddi gan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig.

5. Mae darpariaethau allweddol y Bil yn cynnwys y fframwaith ar gyfer cyflwyno a gweithredu rhyddhad rhag ardrethi annomestig I hereditamentau a ddefnyddir at ddibenion telathrebu.

Y darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad ar eu cyfer

6. Mae cymalau 1 i 3 o'r Bil yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") (ardrethi annomestig) i gyflwyno rhyddhad newydd ar gyfer hereditamentau a ddefnyddir at ddibenion telathrebu sy'n ymddangos ar restrau ardrethi annomestig.

7. Mae cymalau 1 a 2 yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf 1988 i ddarparu fformiwla newydd i gyfrifo symiau taladwy ar gyfer hereditamentau sy'n ymddangos ar restrau ardrethi annomestig lleol a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion hwyluso trawsyriant cyfathrebu drwy unrhyw fodd sy'n ymwneud â defnyddio ynni trydanol neu electromagnetig. Mae'r diwygiadau a wneir gan y cymalau hyn yn rhoi i Weinidogion Cymru,  mewn perthynas â Chymru, bwerau i ragnodi amodau pellach y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i'r rhyddhad fod yn gymwys, ac mae'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

8. Mae cymalau 1 a 2 hefyd yn rhoi i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â Chymru, bwerau i bennu lefel y rhyddhad drwy ragnodi swm y rhyddhad mewn rheoliadau. Caiff rheoliadau hefyd osod dyletswyddau neu roi pwerau i swyddogion prisio, ac mae'r rhain yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

9. Mae cymal 3 yn darparu ar gyfer yr un darpariaethau o ran rhestr ardrethu canolog fel bod hereditamentau telathrebu ar y rhestr ardrethu canolog hefyd yn gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn.

10. Mae cymal 4 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Ddeddf sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1988 a Deddf Atodiadau Ardrethi Busnes 2009. Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae unrhyw reoliadau eraill yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

11. Fel y nodir ym mharagraffau 7 ac 8, mae'r darpariaethau yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth sy’n pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i'r rhyddhad fod yn gymwys, faint o ryddhad sy'n gymwys, a swyddogaethau’r swyddog prisio mewn perthynas â chanfod gwerthoedd ardrethol hereditamentau cymwys.

12. Mae angen cydsyniad ar gyfer y darpariaethau hyn gan eu bod yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn ymwneud â "chyllid llywodraeth leol" o fewn paragraff 12 o Ran 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2006.

Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn ar gyfer Cymru yn y Bil Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig)

13. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil DU hwn am resymau amseriad a chydlyniad. Ystyrir ei bod yn bwysig i Gymru fod yn gydradd â Lloegr o ran rhyddhad ffeibr er mwyn sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith band eang ffeibr newydd yng Nghymru. Mae natur rhyng-gysylltiedig systemau gweinyddol NDR Cymru a Lloegr, a gwaith trawsffiniol Asiantaeth y Swyddfa Brisio fel un o asiantau CThEM, yn golygu ei bod yn effeithiol ac yn briodol I ddarpariaethau ar gyfer gweinyddiaethau Cymru a Lloegr gael eu datblygu ar yr un adeg o dan yr un offeryn deddfwriaethol.

Goblygiadau ariannol

14. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi i newidiadau gael eu gwneud i'r symiau a delir ar hereditamentau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion hwyluso trawsyriant cyfathrebu drwy unrhyw  fodd sy'n ymwneud â defnyddio ynni trydanol neu electromagnetig. Bydd hyn yn lleihau'r ardrethi annomestig a gesglir gan hereditamentau sy'n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn.

15. Cafodd y polisi hwn ei gyhoeddi yn Natganiad y Canghellor yn Hydref 2016 ac mae cyllid wedi ei ddarparu i Gymru o ganlyniad, y gellir ei ddefnyddio i ddisodli unrhyw refeniw o ardrethi annomestig a gollwyd.

Casgliad

16. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil DU hwn am resymau amseriad a chydlyniad. Mae hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau cydraddoldeb â Lloegr er mwyn gwneud yn siŵr nad yw buddsoddiad mewn seilwaith ffeibr yng Nghymru yn cael ei effeithio mewn modd negyddol. Mae natur ryng-gysylltiedig systemau gweinyddol perthnasol Cymru a Lloegr hefyd yn cefnogi’r ddadl o blaid datblygu’r darpariaethau ar yr un pryd yn yr un offeryn deddfwriaethol.

Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Gorffennaf 2017